Ffoniwch ni nawr 02920 799 133

Croeso i adran Fy Anogwr Dysgu ar wefan y t2 Group


Nod y wefan hon yw darparu’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch yn ystod ac ar ôl i chi gwblhau eich cwrs hyfforddiant gyda’r t2 Group.

P’un ai’n gyngor gyrfa, cefnogaeth ychwanegol gyda’ch cymhwyster, hwb i’ch hyder – bydd un o’n anogwyr dysgu penodol yn hapus i helpu!

Ac os yw’n well gennych chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein uchod neu rhowch alwad i ni heddiw ar 02920 799 133

Our Equality and Diversity Action Plan

Cliciwch yma ar gyfer ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y wefan yn adnodd ar gyfer pobl mewnol ac allanol i t2. Ei nod yw darparu manylion am yr hyn mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ei olygu, a’ch helpu i feddwl am eich agwedd tuag at eraill, a’ch syniadau am y bobl rydych yn cwrdd â nhw. Hoffem ichi feddwl hefyd am agweddau pobl eraill sydd o’ch cwmpas.

Rydym hefyd yn ceisio rhoi gwybod ichi beth mae’r gyfraith yn ei ddweud, a beth allwch chi ei wneud i helpu’ch hunan ac eraill, a bod yn deg â phawb.

Ar ôl ichi edrych trwy’r rhan hon o’n gwefan, rydym yn gobeithio y byddwch chi’n teimlo eich bod yn deall mwy am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r t2 group wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae pobl yn parchu’i gilydd ac yn cael cyfleoedd cyfartal.

Ein nod yw creu amgylchedd lle mae pobl yn trin ei gilydd gyda pharch y naill i’r llall, waeth beth yw eu hoedran, anabledd, cyfrifoldeb teuluol, statws priodasol, hil, lliw, ethnigrwydd, cenedligrwydd, crefydd neu gredo, hunaniaeth rywiol, trawsrywedd, cyfeiriadedd rhywiol, gweithgaredd undeb llafur, neu euogfarnau troseddol digysylltiad.

Lawrlwythwch gopi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Deddf Cydraddoldeb 2010

Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r gyfraith sy’n gwahardd triniaeth annheg ac yn helpu i sicrhau cyfleoedd cyfartal yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach.

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb?

Mae’r ddeddf yn disodli cyfreithiau gwrthwahaniaethu blaenorol gydag un ddeddf sy’n symleiddio’r gyfraith ac yn cael gwared ag anghysondebau. Mae hyn yn gwneud y gyfraith yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Mae’r ddeddf hefyd wedi cryfhau amddiffyniad mewn rhai sefyllfaoedd.

Mae’r ddeddf yn ymdrin â naw nodwedd warchodedig na ellir eu defnyddio fel rheswm i drin pobl mewn ffordd annheg. Mae gan bob person un neu ragor o’r nodweddion gwarchodedig hyn, felly mae’r ddeddf yn amddiffyn pawb yn erbyn triniaeth annheg. Y nodweddion gwarchodedig yw:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas neu bartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gredo
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gosod y gwahanol ffyrdd o drin rhywun yn anghyfreithlon, megis gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol, aflonyddu, erledigaeth, a methu â gwneud addasiad rhesymol ar gyfer person anabl.

Mae’r ddeddf yn gwahardd triniaeth annheg yn y gweithle, wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus, wrth waredu a rheoli eiddo, o fewn addysg, a chan gymdeithasau (megis clybiau preifat).

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y rhan hon o’n gwefan, gadewch inni wybod drwy e-bostio: equalityanddiversity@t2group.co.uk

Canllawiau cyffredinol ar y Ddeddf Cydraddoldeb

Deddf Cydraddoldeb 2010 (PDF)

Y Ddeddf Cydraddoldeb – Nodiadau Esboniadol

Deddf Cydraddoldeb 2010 Acas Canllaw Cyflym i Gyflogwyr