Ffoniwch ni nawr 02920 799 133

Croeso i adran Fy Anogwr Dysgu ar wefan y t2 Group


Nod y wefan hon yw darparu’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch yn ystod ac ar ôl i chi gwblhau eich cwrs hyfforddiant gyda’r t2 Group.

P’un ai’n gyngor gyrfa, cefnogaeth ychwanegol gyda’ch cymhwyster, hwb i’ch hyder – bydd un o’n anogwyr dysgu penodol yn hapus i helpu!

Ac os yw’n well gennych chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein uchod neu rhowch alwad i ni heddiw ar 02920 799 133

Diogelwch a Lles

Mae’r t2 group wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn eich amgylchedd gwaith. Fel cwmni, ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu. Mae ymddygiad a ystyrir yn aflonyddu’n dod o fewn sbectrwm eang, o jôcs a sylwadau sarhaus i luniau tramgwyddus.

Gall achosion o aflonyddu/harasio gynnwys y canlynol:

  • Cael tasgau diystyr neu waith annymunol
  • Dioddef sylwadau dilornus
  • Cadw gwybodaeth oddi wrthoch chi’n fwriadol
  • Gwneud ichi edrych yn wirion yn gyhoeddus
  • Tanbrisio’ch cyfraniad – peidio â rhoi clod pan fo’n ddyledus
  • Rhywun yn siarad yn nawddoglyd gyda chi

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich harasio neu’ch bwlio ffoniwch 02920 819 527 ar unwaith am sgwrs gyfrinachol.