Ffoniwch ni nawr 02920 799 133

Croeso i adran Fy Anogwr Dysgu ar wefan y t2 Group


Nod y wefan hon yw darparu’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch yn ystod ac ar ôl i chi gwblhau eich cwrs hyfforddiant gyda’r t2 Group.

P’un ai’n gyngor gyrfa, cefnogaeth ychwanegol gyda’ch cymhwyster, hwb i’ch hyder – bydd un o’n anogwyr dysgu penodol yn hapus i helpu!

Ac os yw’n well gennych chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein uchod neu rhowch alwad i ni heddiw ar 02920 799 133

Cynghorion Defnyddiol ar gyfer Cyfweliadau

 

Rydym wedi rhoi ychydig o gynghorion defnyddiol at ei gilydd i’ch helpu gyda chyfweliadau yn y dyfodol. Bydd y cynghorion hyn yn gadael argraff barhaol ar y cyfwelydd.

1. Gwnewch eich ymchwil

Mae methu â pharatoi yn golygu paratoi i fethu. Rydych yn siŵr o gael cwestiynau penodol am y cwmni, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud eich gwaith cartref drwy edrych ar wefan y cwmni.

2. Ewch ati i ymarfer eich cwestiynau

Er nad oes unrhyw fformat pendant ar gyfer cyfweliad am swydd, mae ‘na rai cwestiynau sydd bron yn sicr o godi. Dyma ychydig ohonynt:-

  • Pam ydych chi wedi gwneud cais am y brentisiaeth hon?
  • Rhowch enghraifft o adeg pan wnaethoch chi ymdopi’n dda dan bwysau.
  • Mae prentisiaethau’n golygu gweithio oriau amser llawn ochr yn ochr ag astudio am gymhwyster. Sut fyddwch chi’n blaenoriaethu’ch llwyth gwaith?
  • Rhowch enghraifft o’r ffordd rydych chi wedi delio â sefyllfa anodd.
  • Beth yw eich dealltwriaeth chi o gyfleoedd cyfartal a sut mae’n berthnasol i’r swydd hon?
  • Rhowch enghraifft o adeg pan fuoch chi'n gweithio’n annibynnol.
  • Rhowch enghraifft o adeg pan fuoch chi’n gweithio fel rhan o dîm.

3. Gwisgo’n iawn

Yr argraff gyntaf a wnewch chi ar ddarpar gyflogwr yw’r un bwysicaf. Bydd barn gyntaf y cyfwelydd yn seiliedig ar eich ymddangosiad a’ch gwisg. Dyna pam ei bod hi bob amser yn bwysig gwisgo’n briodol ar gyfer cyfweliad am swydd.

4. Peidiwch â chynhyrfu

Paratoi’n dda yw’r allwedd i reoli’r sefyllfa. Cynlluniwch eich siwrnai, gan ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer unrhyw oedi annisgwyl, a rhowch bopeth sydd ei angen arnoch yn barod y noson cynt. Cofiwch siarad yn glir a gwenu, a chofiwch fod y rhai sy’n cyfweld yn bobl normal, ac mae’n bosib eu bod nhw’n nerfus hefyd!

5. Holwch gwestiynau

Dylech bob amser gael rhai cwestiynau’n barod ar gyfer y cyfwelydd, i dangos bod gennych ddiddordeb yn y swydd. Paratowch o leiaf tri chwestiwn, gan gynnwys rhai fydd yn rhoi gwybodaeth ichi am y swydd.

Pob Lwc!!