Ffoniwch ni nawr 02920 799 133

Croeso i adran Fy Anogwr Dysgu ar wefan y t2 Group


Nod y wefan hon yw darparu’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch yn ystod ac ar ôl i chi gwblhau eich cwrs hyfforddiant gyda’r t2 Group.

P’un ai’n gyngor gyrfa, cefnogaeth ychwanegol gyda’ch cymhwyster, hwb i’ch hyder – bydd un o’n anogwyr dysgu penodol yn hapus i helpu!

Ac os yw’n well gennych chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein uchod neu rhowch alwad i ni heddiw ar 02920 799 133

Gwelliannau diweddaraf o ganlyniad i adborth 2013:

  • Darparu gwasanaethau cefnogi dysgu ychwanegol megis darllen, ysgrifennu neu fathemateg – datblygu gwefan benodol www.helpwithenglishandmaths.co.uk gydag adnodd sgwrsio ar-lein gyda thiwtor penodol.
  • Darparu cefnogaeth ynglŷn â materion personol a all eich cynorthwyo i barhau â’ch cwrs/hyfforddiant - datblygu gwefan benodol www.mylearningcoach.co.uk gydag adnodd sgwrsio ar-lein gydag anogwr dysgu penodol a chyrsiau e-ddysgu mewn adeiladu hyder, codi hunan-barch, ymdopi â straen, rheoli dicter.
  • Gwella sgiliau iaith Gymraeg – Datblygu cwrs Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim dros gyfnod o 30 wythnos mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd gan ddefnyddio ffeiliau-sain i wella ynganiad.
  • • Cefnogaeth i gynnal bywyd iach – Datblygu ‘cynghorion ar gyfer bywyd iach’ gan Christian Malcolm ar gyfer porth y dysgwr a newyddlen dysgwyr ‘Achievers Edge’.

Gadewch i ni wybod sut allwn ni wella ein gwasanaethau

Yma yn y t2 group rydym bob amser yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob agwedd o’n gweithgareddau.

Rydym ni eisiau eich barn i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein hymroddiad i chi a’n safonau gwasanaeth fel a nodir yn ein Strategaeth Cynnwys Dysgwyr.

Ein bwriad yw i’ch cynorthwyo i gau’r bwlch rhwng eich perfformiad presennol a’ch potensial, ac i sicrhau ein bod yn eich galluogi i gyrraedd eich uchelgais.

I sicrhau hyn mae angen eich barn chi i weld sut allwn ni gwrdd â’ch anghenion a gwella.

Hoffem i chi edrych yn ôl ar eich profiad o ddysgu gyda’r t2 Group a rhannu eich adborth gwerthfawr gyda ni.

Dyma sut y gallwch chi ein cynorthwyo i wneud hyn:

  • Yn yr Arweiniad Cychwynnol pan fyddwn yn cwrdd â chi am y tro cyntaf i drafod eich anghenion a’ch dyheadau ar gyfer eich addysg
  • Mewn adolygiadau cyson drwy gydol eich addysg gyda’ch Rheolwr Datblygiad Personol (Aseswr) i sicrhau eich bod yn gwneud cynnydd
  • Pan fydd ein tîm rheoli ansawdd yn arsylwi ein Rheolwyr Datblygiad Personol (Aseswyr) i sicrhau eu bod yn gwneud gwaith da
  • Pob chwe mis drwy holiadur a anfonir i chi gennym ni a phob blwyddyn drwy holiadur a anfonir i chi gan y Llywodraeth
  • Trwy adran Llais y Dysgwr ar Borth y Dysgwr ar wefan y t2 Group
  • Ar ddiwedd eich addysg. Pan fyddwn yn eich cynghori ar eich camau nesaf posib yn eich addysg neu i ddatblygu eich gyrfa

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni. Rydym yn dadansoddi’r holl wybodaeth a gesglir bob chwarter, ac mae hyn yn cael ei fwydo’n ôl i’r tîm cyfan i’n galluogi i wella ar bopeth a wnawn ac i sicrhau ein bod yn cyrraedd eich anghenion yn gyson.

Defnyddir yr wybodaeth hon i:

  • Adnabod meysydd i’w gwella
  • Ddatrys problemau ac i ddarganfod atebion
  • Gynorthwyo i osod targedau ar gyfer y dyfodol

Cliciwch yma i weld ein Dogfen Strategaeth Cynnwys Dysgwyr

Enw * Cwmni
Eich Ebost * Ffôn
Sut allwn ni wella? *
* Meysydd Gorfodol